Cardiff West Community High School

DATGANIAD I’R WASG- Dadlennu argraffau arlunydd o ysgol uwchradd newydd sbon Caerdydd

Heddiw mae Cyngor Caerdydd wedi rhyddhau delweddau o’r adeilad newydd a fydd gan Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd

O ganlyniad i’r prosiect gwerth £36 miliwn bydd gan yr ysgol gartref newydd sbon cyfagos â Pharc Trelái yng Nghaerau. Bydd ganddo wyth dosbarth y flwyddyn felly bydd modd i’r ysgol newydd adeiledig groesawu hyd at 1200 o ddisgyblion mewn mwy na 13,500 o fetrau sgwâr o loriau.  

Bydd Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd yn agor ym mis Medi. Bydd yn defnyddio safle Ffederasiwn Llanfihangel a Glyn Dewi yn Nhrelái yn ystod y flwyddyn gyntaf, cyn symud i’w chartref pwrpasol ar Pennally Road yng Nghaerau.

Yn ogystal ag adeiladau ysgol newydd a fydd wedi’u rhannu’n dri bloc, bydd y safle 8.8 hectar yn cynnwys caeau chwarae newydd ac ardal gemau defnydd cymysg.

Caiff yr adeilad newydd ei ariannu ar y cyd gan Gyngor Dinas Caerdydd a Llywodraeth Cymru yn rhan o raglen gwerth £164 miliwn Ysgolion yr 21ain Ganrif Caerdydd.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a’r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:

“Bydd yr ysgol newydd, Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, yn rhoi rhagor o gyfleoedd i’r plant a’r bobl ifanc sy’n byw yng Nghaerau a Threlái mewn amgylchedd dysgu atyniadol ac addas i’r 21ain Ganrif.

Mae rhoi gwell addysg a sgiliau i bawb yn flaenoriaeth i’r Cyngor, a thrwy roi’r cyfleusterau gorau i’r disgyblion, a gosod y safonau addysgu gorau posibl, mae modd i ni eu helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo.

Rwy’n credu'n gryf y dylai fod perthynas agos rhwng ysgolion a’r cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu.

Mae’r dyluniad newydd o’r Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd yn cynnwys cyfleusterau sy’n gallu bod o fudd i bawb sy’n byw yn yr ardal, sy’n enghraifft ragorol arall o’r ffyrdd y mae hynny’n cael ei roi ar waith.”

 

Mae’r prosiect yn cyfateb i fuddsoddiad o £36 miliwn i’r ardal leol, ac yn ogystal â hynny bydd nifer o fanteision i'r gymuned o ganlyniad iddo. Ymhlith y rhain, caiff gwaith ei gynnal gydag ysgolion a cholegau lleol yn rhan ohono, bydd yn cyfrannu at gynlluniau, hyfforddiant a chyflogaeth yn y gymuned, a bydd yn creu cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig o faint i gynnig deunyddiau a gwasanaethau.  

Dywedodd y pennaeth sydd wedi’i ddynodi ar gyfer yr ysgol, Mr Martin Hulland:

“Mae’r delweddau o’r ysgol newydd yn gyffrous dros ben ac mae’n gam arall ymlaen tuag at gartref newydd Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd.

Mae rhieni a disgyblion, a phobl sy’n byw yng Nghaerau a Threlái, yn disgwyl yn eiddgar am yr ysgol yma, sy’n arwydd amlwg arall bod Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd ar y gweill. 

Mae paratoadau i agor yr ysgol yn ei chartref newydd ym mis Medi yn mynd rhagddo yn gampus ac mae’r gwaith o recriwtio staff yn bron â chael ei gwblhau.

Mae llawer wedi’i gyflawni mewn cyfnod gweddol fyr. Yn ystod y misoedd diwethaf, mae enw’r ysgol wedi’i gyhoeddi, mae bathodyn newydd wedi’i ddewis, ac yn sgil rhannu’r dyluniadau cyntaf rydyn ni’n edrych ymlaen at ddangos y wisg ysgol newydd i ddisgyblion a rhieni yn yr wythnosau nesaf.

Mae mwy a mwy o gyffro drwy’r amser ac mae’r gwaith caled yn parhau wrth i ni nesáu at agor yr ysgol ym mis Medi.”

Yn ôl cynlluniau bydd Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd yn dod yn ‘ysgol fraenaru’. Yn rhan o hynny caiff cysylltiadau a grëwyd drwy ‘Bartneriaeth Addysg Greadigol’ eu hybu – cynllun i uno ymdrechion sector creadigol Caerdydd a’r awdurdod lleol i hybu creadigrwydd yng nghalon addysg.

Bydd y bartneriaeth yn cynnig lleoliadau profiad gwaith cyffrous i blant a phobl ifanc yr ysgol. Drwy hynny byddan nhw’n cael eu helpu i fanteisio’n llawn ar gyfleoedd yn y sector creadigol a diwylliannol, gan gynnwys bydoedd ffilm, teledu, dylunio digidol a theatr.

Bydd hefyd yn rhoi’r sgiliau creadigol iddyn nhw i’w defnyddio mewn gyrfaoedd a swyddi eraill. 

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:

“Dyma gyfle rhagorol i wella addysg drwy roi creadigrwydd yng nghanol addysg ac i ddatgloi cyfleoedd yn economi greadigol lwyddiannus Caerdydd.

Mae’n hollbwysig ein bod yn helpu pobl ifanc y ddinas i roi eu hunain yn y sefyllfa gryfaf posibl i fanteisio’n llawn ar economi ffyniannus Caerdydd.

Rydw i am sicrhau na chaiff neb ei anghofio ac nad yw gallu plentyn i adeiladu gyrfa lwyddiannus i’w hun yn cael ei benderfynu ar sail ei gefndir cymdeithasol.”

Yr wyth 'Partner Sylfaenu’ yw Amgueddfa Cymru; BBC Cymru; Cyngor Caerdydd; Coleg Caerdydd a’r Fro; Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, sefydliad Creative & Cultural Skills; Prifysgol De Cymru; Canolfan Mileniwm Cymru; Opera Cenedlaethol Cymru.

Cyngor Caerdydd, Jeremy Rhys
Ffôn:
029 2087 2639
E-bost:
jeremy.rhys@caerdydd.gov.uk